llun Rhodri ap Dyfrig

Croeso i wefan ffilm a theledu Pictiwrs.com

Croeso i www.pictiwrs.com ar ei newydd wedd. Wedi tua dwy flynedd ar ffurf blog ar y cyd i griw bach o adolygwyr a chyfrannwyr penderfynwyd ei agor fyny i bwy bynnag sydd eisiau cyfrannu gyda'r amcan o greu cymuned Gymraeg ar-lein i drafod ffilm a theledu.

llun Rhodri ap Dyfrig

Ffilm Ryan a Ronnie ar daith Mawrth-Mai 2009

Ffilm

Hunger

Hanes streic newyn Bobby Sands.
llun Rhodri ap Dyfrig

6.2.08 Pictiwrs Paradiso - The Maltese Falcon - Aberystwyth

Ffilm | Pictiwrs yn y Pyb


Cyfle i neidio nôl mewn amser i'r 40au!

Mae noson ffilm Pictiwrs Paradiso yn dychwelyd gyda digwyddiad ffilm bendigedig arall i chi. Ar nos Fercher, 6ed Chwefror byddwn ni'n cynnal dangosiad o The Maltese Falcon, y ffilm dditectif noir hyfryd honno gyda Humphrey Bogart, yn amgylchedd atmosfferig Amgueddfa Ceredigion - hen sinema'r Coliseum!

llun Rhodri ap Dyfrig

29.01.08 Noson ffilmiau byrion Undercurrents, Abertawe

Ffilm | Gwyliau ffilm


Poster bendigedig. Werth mynd draw am squizz (gawd, heb ddefnyddio'r gair yna ers ysgol!).

llun Rhodri ap Dyfrig

19.01.08 Pictiwrs Yn Y Pyb - Tŷ Tawe

Ffilm | Pictiwrs yn y Pyb

Bydd Pictiwrs yn cynnal noson ffilmiau yn Abertawe nos Sadwrn yma. Dewch yn llu i weld y gorau o ffilmiau byrion Cymraeg.

llun Rhodri ap Dyfrig

5.12.07 Pictiwrs Paradiso - The Wicker Man - Druid Inn, Goginan

Ffilm


Mae noson gyntaf tymor newydd Pictiwrs Paradiso yn ail gychwyn fis nesaf gyda'r clasur arswydus, one-off, bisâr, paganaidd, Albanaidd, naci-dim-pen-ôl-go-iawn-Britt-Eklund-ydi-hwnna - The Wicker Man.

llun Rhodri ap Dyfrig

Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig - Y Drwm, Aberystwyth - 04.12.07

Ffilm

Cyfle euraid i weld y clasur Nadoligaidd Y Dyn nath ddwyn y Dolig o gasgliad ffilmiau cynnar S4C. Ffilm gerddoriaeth o 1985 gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn. Werth ei weld os jest am y gwalltiau a'r gwisgoedd!

Fel Arall: Dogfen Nia Dryhurst ar S4C

'Mond eisiau eich atgoffa y bydd ffilm ddogfen Nia Dryhurst, Fel Arall yn cael ei ddangos ar S4C nos Fawrth yma am 9pm. Cafodd y ddogfen gryn sylw yn ystod Yr Wyl Ffilm Hoyw a Lesbaidd eleni, ac mae'r manylion ar wefan y rhaglen yn argoeli ffilm sensitif a dadlennol.

28/10/07 - Amnest yn dangos "The Cup" yng Nghaerdydd

Ffilm


Mae Amnest Rhyngwladol yn cynnal dangosiad arbennig o'r ffilm, Phorpa (The Cup), yng nghanolfan Chapter Caerdydd, nos Sul yma.