Teledu

Man Del - Comedi newydd ar S4/C

Teledu


Mae'n ymddangos bod comedi newydd yn cychwyn ar S4/C nos fory am 9pm, ond ma'n rhaid bod yn graff iawn i wybod hynny... Dwy heb sylwi hysbysebion ar y bocs*, a does dim manylion ar brif ddalen y wefan, ond dyma'r disgrifiad yn yr amserlen:

llun Rhodri ap Dyfrig

Teledu Band Llydan: ITV Local Cymru yn chwilio am gynnwys

Gwefannau | Teledu


Mae ITV Wales yn sefydlu sianel newydd Band llydan o'r enw ITV Local. Mae'n gyfle i sefydliadau a grŵpiau cymunedol Cymreig i arddangos eu ffilmiau byr, fideos ac animeiddiadau i gynulledifa ehangach. Dyma ITV Local Llundain i roi syniad o'r math o gynnwys sydd yno.

llun Rhodri ap Dyfrig

Ail-frandio'r Geltaidd

Ffilm | Gwefannau | Gwyliau ffilm | Teledu

Mae'r Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd wedi newid eu enw i'r Wyl Gyfryngau Geltaidd. Hen bryd a dweud y gwir, gan fod y gystadleuaeth ar agor i Radio a chyfryngau newydd yn ogystal.

llun Rhodri ap Dyfrig

S4/C - snîc pîc ar yr ail-frandio !

Teledu

Mae S4C ar fin lawnsio ei frandiad (branding?) newydd ar gyfer y sianel gan gynnwys newid logo, idents ac arddull gyffredinol brand y sianel.

Mae gwefan Brand Republic yn rhedeg stori ddoe (ella cyn dyddiad embargo y press release?) yn sôn am y brandio ac yn dangos un delwedd fach o ident newydd sydd rhywbeth i wneud â golff ar ben mynydd.

Ar y bocs yr wythnos hon...

Teledu

"Dead Long Enough" a "Cymbeline"

Bydd Dead Long Enough (2005) ffilm sydd wedi lleoli'n rhannol yng Nghymru, yn cael ei dangos ar ITV1 nos Wener yma, sef Rhagfyr 15fed, am 23.00. Dwy heb weld y ffilm (a gafodd lawer o sylw adeg Gwyl Sgrîn Caerdydd llynedd) ond mae adolygiad IMDB yn annwylo'r peth i mi...

llun Rhodri ap Dyfrig

Ailgreu'r Chwarelwr

Ffilm | Teledu

Mae'r ffilm Gymraeg gyntaf erioed ar fin cael ei dangos ar S4C ar nos Sul 10 Rhagfyr ar ei newydd wedd. Cafodd Y Chwarelwr, sydd yn ran o gasgliad eang Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, yn y Llyfrgell Genedlaethol, ei ffilmio yn ardal Blaenau Ffestiniog yn 1935 gydag actorion lleol yn serennu o dan gyfarwyddyd Syr Ifan ap Owen Edwards a'r dramodydd John Ellis Williams.

llun Rhodri ap Dyfrig

Canoli Comisiwn Sgrin Cymru yng Nghaerdydd?

Ffilm | Teledu

Mae'r BBC yn adrodd heddiw fod dyfodol swyddi yng nghanghennau Comisiwn Sgrin Cymru y tu allan i Gaerdydd a'r De Ddwyrain yn y fantol. Mae'r Comisiwn Sgrin yn gweithio i ddenu cwmniau cynhyrchu i saethu hysybysebion, rhaglenni a ffilmiau yng Nghymru gan wario eu harian yma.

llun Rhodri ap Dyfrig

Urien Wiliam yn marw yn 76

Ffilm | Teledu

Mae'r BBC a'r Western Mail yn adrodd heddiw fod Urien Wiliam, sgriptiwr, dramodydd ac awdur sy'n adnabyddus am ei addasiad o straeon Wil Cwac Cwac ar gyfer y teledu, y gyfres boblogaidd Coleg a sawl llyfr yn ogystal. O ddiddordeb arbenig i ddarllenwyr y wefan hon efallai yw'r ffaith taw fo drosodd y ffilm gowboi Shayne i'r Gymraeg ar gyfer ei dybio.

llun Rhodri ap Dyfrig

Valleywood: Rhith?

Ffilm | Teledu

Mae tudalen flaen y Western Mule yn bloeddio heddiw ei bod yn debygol fod llai na llond llaw o swyddi am ddod gyda agoriad y llwyfannau sain newydd yn Llanilid. Rhain yw rhan gyntaf y prosiect sydd i fod i ragflaenu dyfodiad y stiwdio a pharc thema, a gafodd ei heipio i'r fath raddau dros y blynyddoedd dwetha.

llun Rhodri ap Dyfrig

Con Passionate yn y Babell Lên, Eisteddfod Abertawe - 10yb, Mercher, 9 Awst

Teledu

Yn y Babell Lên eleni cynhelir sesiwn arbennig yn trafod un o ddramau mwyaf poblogaidd S4C Con Passionate. Bydd y sesiwn, sydd wedi ei threfnu ar y cyd â’r Babell Lên gan Cyfrwng, sefydliad sy’n hybu trafodaeth ar y cyfryngau yng Nghymru, yn rhoi cyfle i fynychwyr yr Eisteddfod i drin a thrafod y gyfres boblogaidd hon gyda’r bobl fu’n gyfrifol am ei chynhyrchu.

Ffrwd XML