Y Rhestr Gynhwysfawr o Ffilmiau Iaith Gymraeg!

llun Rhodri ap Dyfrig
Ffilmiau Cymru

Catchy eh!

Falle ddim. Ond dwi wedi meddwl ar sawl achlysur, ble sy na sy'n rhestru'r holl ffilmiau sydd wedi cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg? Nunlle wir, neu o leiaf nunlle ar y we. Efallai fod gan yr Archif Sgrin a Sain ryw restr yn rhywle ond yrr unig beth sydd na ar y we ydi rhestr ffilmiau Cymraeg IMDB. Felly be am drio rhestru cymaint ag y gallwn ni fan hyn. Mi gychwynna i gyda rhai oddi ar IMDB yna wrth i chi ychwanegu ffilmiau, fe wna i eu ychwanegu at y rhestr. Co ni off de...

31:12:99 (Rhys Powys, 1999)
A Barcud Yn Farcud Fyth (Siôn Humphreys, 1992)
Ac Eto Nid Myfi (Siôn Humphreys, 1989)
Aderyn Papur (Stephen Bayly, 1984)
Aduniad, Yr (Ceri Sherlock, 1998, Ffilmiau Boda, 90 munud)
Aelwyd Gartrefol (Alan Clayton, ?)
Alcoholig Llon, Yr (Karl Francis, 1983)
Alltud, Yr (Siôn Humphreys, 1989)
Amlyn ac Amig (?, 1986, ?)
Angel O'r Nef (Siôn Humphreys, 1985)
Ar Lan y Mor (? , 1985, 85 mun)
Arian Llosg (1994, 95 mun)
Blodeuwedd (Siôn Humphreys, 1989/1990?)
Blumenfeld (?, 1985, 100 mun)
Branwen (Ceri Sherlock, 1994)
Bydd Yn Wrol (Terry Dyddgen Jones, 1998)
Byw Yn Dy Groen (Pip Broughton, 2001)
Byw Yn Rhydd (Siôn Humphreys, 1987)
Cameleon (Ceri Sherlock, 1997)
Camgymeriad Gwych (Marc Evans, 2000)
Chwarelwr, Y (Ifan ab Owen Edwards, 1935)
Chwedl Nadolig Richard Burton (1990, 60 mun)
Cloc, Y (Endaf Emlyn, 1986)
Cwm Hyfryd (Paul Turner, 1993)
Cylch Gwaed (Alun Ffred Jones, 1992)
Cymer Dy Siâr (?, 1999)
Dafydd (Ceri Sherlock, 1993)
Dal: Yma/Nawr (Marc Evans, 2004)
Delyn, Y (Robin Davies Rollinson, 2001)
Derfydd Aur (?, 1989, 105 mun)
Deryn Dolig (Alun Ffred Jones, 1985)
Dial (Paul Turner, 1995)
Dieithryn, Y (Emlyn Williams, 1976)
Dirgelwch Yr Ogof (Endaf Emlyn, 2002)
Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (Euros Lyn, 2000)
Dwr A Thân (Siôn Humphreys, 1991)
Dyddiadur Dyn Dwad (Emlyn Williams, 1989/1992?)
Dylluan Wen, Y (?, 1996)
Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig, Y (Endaf Emlyn, 1985)
Dyn Swllt, Y (Alun Ffred Jones, 1989)
Dyrnod Branwen (?, ?) (awdur: Gareth Miles)
Eira Cynta'r Gaeaf (?, 1992)
Eldra (Tim Lyn, 2002)
Elenya (Steve Gough, 1991)
Etifeddiaeth, Yr (Geoff Charles a John Roberts Williams, 1949)
Fargen, Y (Strathford Hamilton, 1996)
Ferch Dawel, Y (Gareth Lloyd Williams, 1997)
Gadael Lenin (Endaf Emlyn, 1993)
Gaucho (Endaf Emlyn, 1983)
Gwaed Ar Y Sêr (Wil Aaron, 1975)
Gwaith, Y (Stephen Bayly, 1984)
Gwenoliaid (?, 1986)
Gwr y Gwyrthiau (Stanislav Sokolov a Derek Hayes, 1999)
Gwyfyn (Euros Lyn, 2002)
Gwynfyd (Emlyn Williams, 1992)
Hedd Wyn (Paul Turner, 1992)
Heliwr, Yr (Peter Edwards, 1991)
Hen Dynnwr Lluniau, Yr (Wil Aaron, 1973)
Hualau (Sion Humphreys, diwedd yr 80au?)
Iâr Fach yr Haf (?, ?)
Ibiza, Ibiza (?, 1986)
I Fro Breuddwydion (Ken Howard, 1987)
Joni Jones (Stephen Bayly, ?)
Leni (1991, 105 mun)
Lleill, Y (Emyr Glyn Williams, 2005)
Llid y Daear (Karl Francis, 1989)
Lliwiau (?, 1988, 85 mun, )
Llwybr Defaid (?, ?)
Lois (Eurwyn Williams, 1999)
Mabinogi, Y (Chris Monger a Geoff Moore, 1984)
Mabinogi, Y (Derek Hayes, 2003)
Macsen (Gareth Wynn Jones, 1983)
Madam Wen (Pennant Roberts, 1982)
Mapiwr, Y (Endaf Emlyn, 1995)
Mela (Emlyn Williams, 2004)
Midffild (Alun Ffred Jones, 1992)
Milwr Bychan (Karl Francis, 1986)
Mwg Glas, Lleuad Waed (1988, 105 mun)
Mynydd Grug, Y (Angela Roberts, 1997)
Nel (Meic Povey, 1991)
Newid Gêr (Alan Clayton, 1979)
Noson Lawen (Mark Lloyd, 1950)
O'r Ddaear Hen (Wil Aaron, 1981)
Oed yr Addewid (i)(?, 1987)
Oed Yr Addewid (ii)(Emlyn Williams, 2002)
O.G. (Gareth Wynn Jones, 1981)
O.M. (Emlyn Williams, 1990)
Owain Glyndwr (James Hill, 1983)
Plant Y Tonnau (Alun Ffred Jones, 1986)
Plentyn Cyntaf, Y (Sion Humphreys, 1998?)
Porc Pei (Paul Turner, 1998)
Priodas Gwen (Sion Humphreys, ?) (awduron: Elliw Haf a Iola Gregory)
Pum Cynnig i Gymro (Peter Edwards, 1997)
Rhew Poeth (Alun Ffred Jones, 1987)
Rhith y Lloer (?, 1989, 90 mun)
Rhosyn a Rhith (Stephen Bayly, 1986)
Scersli Bilîf (Wil Aaron, 1974)
Sgid Hwch (Alun Ffred Jones, 1992)
Sgwar y Sgorpion (?, 1994, 85 mud)
Sion a Sian (Tim Lyn, 2003)
Siwan (Sion Humphreys, 1986)
Solomon a Gaenor (Paul Morrison, 1999)
Steddfod Steddfod (?, 1995)
Stormydd Awst (Endaf Emlyn, 1987)
Tân ar y Comin (David Hemmings, 1993)
Teisennau Mair (Gareth Wynnn Jones, 1979)
Teulu Helga (Siôn Humphreys, 1985)
Tom Nefyn (?, 1994)
Tra Bo Dwy (Paul Turner, 1984)
Twll O Le (Siôn Humphreys, 1986)
Tyd Yma Tomi (Gareth Wynn Jones, 1984)
Tywyll Heno (?, 1986)
Un Fran Ddu (Siôn Humphreys, ?)
Un Nos Ola' Leuad (Endaf Emlyn, 1991)
Weithred, Y (?, ?)
Wil Six (?, 1983/4?)
Wyn I'r Lladdfa (Siôn Humphreys, 80au cynnarish?)
Yma I Aros (?, 90au cynnar?)
Ymadawiad Arthur (Marc Evans, 1994)
Yn Gymysg Oll I Gyd (?, 1997)
Ysbryd y Nos (?, 1985, 90 mun)
Ysglyfaeth (Gareth Wynn Jones, 1984)

Rhai ychwanegol o adran

Rhai ychwanegol o adran ffilmiau gwefan S4C:

Byw Yn Dy Groen (2001)
Camgymeriad Gwych (2000)
Cwm Hyfryd (1993)
Dial (1995)
Y Fargen (1996)
Gwr y Gwyrthiau (1999)
Llid y Daear (1989)
Y Mynydd Grug (1997)
Pum Cynnig i Gymro (1997)
Stormydd Awst (1987)

Oedd na ddim un o'r enw

Oedd na ddim un o'r enw "31:12:99" a gynhyrchwyd gan gwmni Bracan yn 1999?

Madam Wen (1983?)

Fydd raid pori llyfr Dave Berry heno ma...

Oedd Gwifyn yn ffilm? Eitha

Oedd Gwifyn yn ffilm? Eitha diweddar, Maria Pride yn actio mam alcholic.

Mela (2004 neu 5?)

Tan ar y Comin a'r addasiad T.Llew Jones diweddar arall na am Sion Cwilt nad ydwi'n cofio'i enw ar hyn o bryd...

Y Lleill (2005) Province -

Y Lleill (2005)

Province - Ffilm oedd hwn hefyd dwi'n siwr, newydd gael ei ail ddarlledu ar di-gi-dol yn weddol ddiweddar.

Ddim Trysor Y Môrladron

Ddim Trysor Y Môrladron oedd yr un dolig S4C tua 3/4 mlynedd nôl? Ofnadwy os dwi'n cofio'n iawn.

Oedd Mela yn ffilm? Awr o hyd oedd o. Feature teledu faswn i'n ei alw. Dwi'n gyndyn i'w gynnwys.

Y Ferch Dawel (Gareth Lloyd Williams, 1997)

Beth am ffilmiau Sion Humphreys? Wil Aaron?

Well i ni drio rhoi enwau'r cyfarwyddwyr os gallwn ni 'fyd.

Rhagor o ffilmia...

Yr Etifeddiaeth (1949)
Y Chwarelwr (O M Edwards, 1935)
Noson Lawen (?)
Elenya (Steve Gough, 1991)
Gwenoliaid (?, tua 1985?)

Oedd na ffilm Owain Glyndwr rwbryd yndoedd?

[Gol: "Owain Glyndwr" oedd ei enw, James Hill gyfarwyddodd - duw a wyr pa flwyddyn oedd o. J.O. Roberts a John Pierce Jones yn actio. HTV gynhyrchodd.]

Yr Heliwr (sef 'A Mind to

Yr Heliwr (sef 'A Mind to Kill')
Ibiza, Ibiza
Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig
C'mon Midffild - Y Mwfi Smiling
Dafydd (Ceri Sherlock)
Nel (Meic Povey oedd yr awdur.. pwy gyfarwyddodd?)

Diolch am y rheina. Dim clem

Diolch am y rheina. Dim clem pwy gyfarwyddodd Nel.

Wedi ychwanegu tua 15 o lyfr Dave Berry. MAe o'n mynd fyny at tua 1993.

Edrych fel fod '92 a '83 yn flynyddoedd da i ffilm Cymraeg.

Dyma ambell i un arall

Dyma ambell i un arall (diolch i elinhgj!)

Yn Gymysg Oll I Gyd (1997)
Lois (Eurwyn Williams, 1999)
Bydd Yn Wrol (Terry Dyddgen Jones, ?)
31:12:99 (Rhys Powys?, ?)

Angry Earth teitl Saesneg yw Llid Y Ddaear.

Y Delyn (Robin Davies Rollinson, 2001)

Dirgelwch yr Ogof (Endaf

Dirgelwch yr Ogof (Endaf Emlyn, 2002)

Oes yna rhywun arall yn cofio ffilm o'r enw Y Siop. Eitha diweddar am ferch ifanc yn etifeddu siop mewn ardal wledig, o bosib yn y canolbarth.

Y Dylluan Wen

'Steddfod Steddfod?

Dwi wedi newid fy meddwl am

Dwi wedi newid fy meddwl am Mela o weld hyd rhedeg rhai o'r ffilmiau cynharach yn y rhestr. Roedd llawer o'r rhai a wnaed yn y 70'au yn 50-60 munud o hyd, os hynny, felly buasai'n anheg gadael Mela allan o'r rhestr o weld hyn.

Cytuno?

Wedi dweud hyn, mae hi'n annodd wedyn gallu gwrthod unrhyw ddrama deldu awr o hyd rhag cael lle ar y rhestr. Mae'n annodd hefyd derbyn Ibiza Ibiza a Midffild heb adael episod dolig Emyn Roc a Rol (a sbeshal dolig Con Pash, pan ddaw. ac mi ddaw).

Oes angen bod yn llymach neu gadw fo'n llac? Os oes angen bod yn fwy llym, beth felly yw'r criteria?

Fod rhaid i'r ffilm fod wedi cael o leiaf un dangosiad theatrig? Dwi'n meddwl y buasai hynny'n reit deg, ond buasai hi'n annodd iawn cael yr wybodaeth hyn ar gyferyr helyw o'r ffilmiau.

Fe allwn ni nodi fod rhai yn

Fe allwn ni nodi fod rhai yn 'Ffilm deledu'. Y peth yw, prin iawn yw'r 'ffilmiau go-iawn' yng Gymraeg sydd wedi ei creu ar gyfer eu dangos mewn theatr. Ond mae yna lot o waith pwysig sydd yn bodoli ar ffurf ffilm deledu yn unig.

Newydd feddwl am un arall oedd ar S4C eto yn ddiweddar:
Yr Aduniad (Ceri Sherlock, 90 munud, 1998, Ffilmiau Boda)

Dwi'n meddwl ei bod hi'n

Dwi'n meddwl ei bod hi'n werth gwahaniaethu, os mae posib gwybod. Dwi'n cytuno â ti fodd bynnag y byddai llawer iawn o ffilmiau da yn cael eu diosg petai dim ond ffilmiau theatrig yn cael eu rhestru. Efallai taw'r ateb yw creu rhyw mini-IMDb ar gyfer ffilmiau Cymraeg, gyda chrynodebau rhestrau actorion ac ati.

Mi ellid defnyddio'r system adolygu ar y wefan i wneud hyn (neu ei addasu efallai...) i gael un hafan i wybodaeth am ffilmiau Cymraeg. Mae'r wybodaeth sydd ar y we yn hynod brin am rhai o'r ffilmiau hyn.

'Ffilm deledu' arall am wn

'Ffilm deledu' arall am wn i, Y Weithred - gan Povey ond sai'n siwr pwy gyfarwyddodd.

Iâr Fach yr Haf (Manon

Iâr Fach yr Haf (Manon Rhys, awdur). 1980au hwyr? Stori gariad wedi'i lleoli'n Solfach, am bysgotwr lleol yn cwympo am ferch ifanc sy'n rhan o brotest merched yn erbyn gwersyll filwrol/arfau yn yr ardal, gyda Beth Robert ac Ifan Huw Dafydd, os gofia i'n iawn.

Odi 'Johnny Be Good' gan

Odi 'Johnny Be Good' gan Marc Evans yn cyfri' te? Mae honno'n rhyw hanner can munud o hyd os gofia' i'n iawn.

Dwi'n meddwl mai'r enw cywir

Dwi'n meddwl mai'r enw cywir oedd A BARCUD YN FARCUD BYTH
WYN I'R LLADDFA - Sion Humphreys (80au cynnarish)
HUALAU - Sion Humphreys (diwedd yr 80au?)
SIWAN - Sion Humphreys (canol yr 80au?)
UN FRAN DDU (Sion Humphreys)

Beth am Bride of War (Peter

Beth am Bride of War (Peter Edwards, 1998)?
Mi oedd na ffilm Gymraeg da Bill Nighy 'fyd, ynte drama deledu oedd hi... Ceri Sherlock yn cyfarwyddo dwi'n meddwl, nawdegau.
Mari, dwi'n cofio Y Siop 'fyd, dim syniad da fi am fwy o wybodaeth.

Falle y dylse ni ddiffunio dramau teledu gyda symbol fel ma IMDB yn wneud e.e.
Hedd Wyn (Paul Turner, 1992)
a
Mela (Emlyn Williams, 2004)(TV)

Ma'n rhaid cofio fod y mwyafrif o ffilmie Cymraeg i hiaith wedi i saethu i'r teledu gan fod dangosiad theatrig o unrhyw ffilm Gymreig yn rywbeth prin iawn.

Oes copie o'r ffilmie 'ma i gyd ar gael yn yr Archif yn Aber?

Diolch! Argol, do'n i ddim

Diolch! Argol, do'n i ddim yn sylwi fod o wedi gneud cymaint. 'Swn i'n wir hoffi eu gweld nhw.

Mae'n siwr fod copiau o'r

Mae'n siwr fod copiau o'r holl rai theatrig. Dwi ddim yn gwybod beth fuasai'r sefyllfa efo'r holl ffilmiau teledu fodd bynnag. Dwi'n amau taw archif S4C fuasai'r lle i ffeindio'r rheiny.

Fan hyn yw'r lle i chwilio.

Mi anfona i ebost atyn nhw. Yn sicr mae digon o ffilmiau fan hyn am retrospective go helaeth. Gwyl Pictiwrs Cymru 2007?!

> Beth am Bride of War

> Beth am Bride of War (Peter Edwards, 1998)?

"Pum Cynnig i Gymro" oedd y Teitl Cymraeg, ond ai 1997 neu 1998 oedd o. '98 mae IMDb yn dweud / '97 mae S4C yn dweud...

Diolch Non...mlaen i'r

Diolch Non...mlaen i'r rhestr â hi...

Felly, dyma re-cap bach...y

Felly, dyma re-cap bach...y rhain sydd â gwybodaeth goll:

Aelwyd Gartrefol (Alan Clayton, ?)
Cymer Dy Siâr (?, 1999) (dwi ddim yn cofio hwn? ffilm oedd o?)
Dyddiadur Dyn Dwad (Emlyn Williams, 1992) - oedd hon yn ffilm o gwbl?
Dylluan Wen, Y (?, ?)
Gwenoliaid (?, 1986)
Hualau (Sion Humphreys, diwedd yr 80au?)
Iâr Fach yr Haf (?, ?)
Ibiza, Ibiza (?, 1986)
Joni Jones (Stephen Bayly, ?)
Madam Wen (?, 1982)
Nel (Meic Povey?, 1991)
Siwan (Sion Humphreys, canol yr 80au?)
'Steddfod 'Steddfod (?, 1989)
Un Fran Ddu (Siôn Humphreys, ?)
Wyn I'r Lladdfa (Siôn Humphreys, 80au cynnarish?)
Yn Gymysg Oll I Gyd (?, 1997)

Dau beth o gasgliad y Bwrdd

Dau beth o gasgliad y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg nad sy'n ymddangos ar y rhestr hyd yn hyn:
Sgersli Bilif (Wil Aaron, 1974)
Tyd Yma Tomi (Gareth Wynn Jones, 1984)

Mae gan yr Archif gopïau o holl allbwn S4C ers tua 1983/4 (felly dyw’r stwff cynnar iawn ddim yno) felly, mewn egwyddor, dyle’r holl ffilmiau a ddarlledwyd gan S4C fod ar gael. Nid yw’r gronfa sydd ar y wefan yn cynnwys holl allbwn S4C, mae hynny ar fas data arall, felly mae ganddyn nhw llawer iawn mwy o ddeunydd na’r hyn sydd wedi ei rhestri.
Rhywbeth arall i ystyried falle, wrth greu bas data, yw’r ffaith fod ambell ffilm (Rhosyn a Rhith, Alcoholig Llon, Milwr Bychan i enwi ychydig) wedi eu creu ar gyfer y teledu, ond wedi cael dangosiadau theatrig mewn gwyliau.

Diolch am rhain, ma Sgersli

Diolch am rhain, ma Sgersli yna'n barod (Scersli oedd Dave Berry wedi ei sillafu - prun sy'n iawn dwad?).

Be am Wil Six (?, 1983/4) hefyd os da ni'n cadw dramau llai na feature mewn.

Felly mewn theori gallai unrhywun ddewis ffilmiau o'r rhestr hwn, mynd i'r archif a'u gwylio ar VHS yno?

Cytuno fod angen gwahaniaethu rhwng y ffilmiau gafodd fywyd theatrig a'r rhai teledu yn unig.

Newydd ddod o hyd i restr

Newydd ddod o hyd i restr lychlyd yn y dror. Fe wnaeth rhywun rhoi’r rhestr i mi cwpwl o flynyddoedd yn ôl, gan ddweud ei fod yn rhestru holl ‘ffilmiau’ S4C. Dydw i erioed wedi clywed am eu hanner nhw! Fe fyddai’n dda darganfod os ydyn nhw’n addas i’w cynnwys. Sdim cyfarwyddwr wedi nodi, ond mae yna blwyddyn, hyd a dyddiad darlledu ar gyfer cyfran ohonynt, felly dwi wedi nodi blwyddyn a hyd. Dwi’n nodi dyddiad hefyd ar gyfer ambell ffilm sydd wedi nodi yn barod.

Ar Lan y Mor (85 mun, 1985)
Ysbryd y Nos (90 mun, 1985)
Blumenfeld (100 mun, 1985)
Amlyn ac Amig (1986)
Siwan (1986)
Tywyll Heno (1986)
Oed yr Addewid (i)(er mwyn gwahaniaethu) (1987)
Lliwiau (85 mun, 1988)
Mwg Glas, Lleuad Waed (105 mun, 1988)
Rhith y Lloer (90 mun, 1989)
Derfydd Aur (105 mun, 1989)
Dyddiadur Dyn Dwad (1989)
Blodeuwedd (1990)
Chwedl Nadolig Richard Burton (60 mun, 1990)
Leni (105 mun, 1991)
Eira Cynta'r Gaeaf (1992)
Gwynfyd (1992)
Arian Llosg (95 mun 1994)
Tom Nefyn (1994)
Sgwar y Sgorpion (85 mud 1994)
Steddfod! Steddfod! (1995)
Tylluan Wen (1996)
Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (Euros Lyn ondife? 2000)

(Rhodri - gei di restr o'r cyfan heno gen i).

Hefyd, mwy o fanylion i ychwanegu at ffilmiau a nodwyd eisoes:
Yr Etifeddiaeth (Geoff Charles a John Roberts Williams, 1949)
Noson Lawen (Mark Lloyd, 1950)
Cyfarwyddwyd Madam Wen gan Pennant Roberts

Waw-wîî! Sgwar y Sgorpion

Waw-wîî!

Sgwar y Sgorpion - am deitl gwych - dwisio gendu re-make yn barod! Am ryw reswm mae gneud i fi feddwl am reslo.

Sôn am ymaflyd codwm (*ies* - defnydd o eiriau mwyaf gwych yn Gymraeg) ...pryd mae na bio-pic El-Bandito am hitio'r sgriniau ta?

Leni oedd John Ogs fel y digirfwr na de, King of Comedy Cymraeg, gyda'r Bob de Niro Cymraeg i fatsho!

Yn doedd '83 i '93 yn ddegawd aur i ffilmiau Cymraeg?

Rhodri ap Dyfrig wrote:Yn

Rhodri ap Dyfrig wrote:
Yn doedd '83 i '93 yn ddegawd aur i ffilmiau Cymraeg?
Oedd, a sgwn i pwy oedd wrth y llyw o '94 ymlaen Smiling Annheg falle, am fod hinsawdd y byd teledu wedi dechrau newid yn gyflym o '92 ymlaen, ond roedd newid pendant yn y defnydd o'r adnoddau (dim ymrwymiad i wneud dau ffilm y flwyddyn?)

wedi pigo bren mam

wedi pigo bren mam neithiwr:
LLWYBR DEFAID (ddim yn siwr pwy na be ond dwi'n meddwl fod Nerys Lloyd ynddo fo)
PRIODAS GWEN (Sion Humphreys) (awduron: Elliw Haf a Iola Gregory)
Y PLENTYN CYNTAF (Sion Humphreys) - ffilm ola Sion efo Bryngwyn
DYRNOD BRANWEN (awdur: Gareth Miles)
YMA I AROS (county&western efo Morfudd Hughes a Bryn Fon - dwi ddim yn siwr o'r cyfarwyddwr na'r flwyddyn sori. 90au cynnar dwi'n meddwl)

Onid oedd gan Sion Eirian rhyw ffilm - rwbath i neud efo 'lleuad'?

Ddim yn gynhwysfawr iawn, sori. be am i rhywun gysylltu efo Sion Humphreys neu ei gyfeirio at y wefan yma? Dwi'n siwr y byddai ganddo fo lawer i'w ychwanegu...

Gwych. Diolch Angharad.

Gwych. Diolch Angharad.

Ti'n iawn wnai anfon ebost ato fo. A dweud y gwir fuasai hi'n werth taro ebost at gyfarwyddwyr eraill ar y rhestr er mwyn cael y ffeithiau'n iawn.

Dwi'n cofio gwylio Y Plentyn Cyntaf, dio'm yn addasiad o lyfr ei Dad o? Oedd o'n reit sci-fi/arbrofol os dwi'n cofio'n iawn.

May na thebyg fod Y Plentyn

May na thebyg fod Y Plentyn Cyntaf yn addasiad o un o nofela ei dad o, fel lot o'i ffilmia fo. Mi ffilmion nhw fo yng Nglynllifon (a pheintio'r walia i gyd yn goch). Oedd, bizarre iawn os dwi'n cofio'n iawn...

Mi fasa'n gret cael rhyw retrospective o ffilmia Cymraeg - swn i wrth y modd yn gweld Teulu Helga eto - oes gan rhywun gopi tybed?
Ma gen i gopi o Un Fran Ddu, Dyn Nath Ddwyn y Dolig, Siwan, Tra bo Dwy a Hualau (yng nghefn y cwpwrdd fideos llychlyd!)

Pam na wnawn ni hynny felly?

Pam na wnawn ni hynny felly? Da ni wedi bod yn meddwl gwneud mini-gwyll ffilmiau Cymraeg yng Nghaernarfon ond heb wir, fynd ati o ddifrif. Dwi'n meddwl fod gweld fod o leaif 122 ffilm (122!!) wedi cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg yn haeddu rhyw fath o edrychiad nôl ac asesiad o lle da ni'n mynd.

Fase'n wych cael rhai o'r cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr ac actorion at eu gilydd i drafod eu profiadau gyda phobl sydd yn astudio'r maes.

Eeeeeniwe, mi gychwynna i edefyn arall am hyn.

Y ffilm Cymraeg gyntaf imi

Y ffilm Cymraeg gyntaf imi ei weld ar sgrin fawr oedd un o'r enw Yr Afon, yn Eisteddfod Aberteifi ym 1976 (neu 76ish). Ffilm wedi ei selio ar awdl fuddugol Gerallt Lloyd Owen yn yr eisteddfod flaenorol (neu flaenorolish).

Y ffilmiau Cymraeg cyntaf i'w ddangos ar S4C oedd ffilmiau tramor wedi eu dybio i'r Gymraeg, ydy'r rhain yn cyfrif? Ffilmiau Ewropeaidd oedd y mwyafrif, a gan hynny yn eithaf derbyniol. Yr un sy'n sefyll allan oedd yr ymgais i ddybio ffilm cowbois enwog o'r Saesneg (Americanaidd) sef Shane gydag Allan Ladd yn y brif ran

Dwi heb glywed am Yr Afon,

Dwi heb glywed am Yr Afon, ti'n cofio rhagor amdani?

O ran y ffilmiau wedi'u dybio mae Kate Woodward wedi postio erthygl ddarganfyddodd hi yn The Times sy'n sôn am Shane a dwy arall sydd yn debygol o fod ar goll.

Dwi wedi clywed am Yr Afon.

Dwi wedi clywed am Yr Afon. Dwi'n meddwl mai Aelwyd Llandwrog oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu. Mae gen i wybodaeth am y ffilm yn rhywle, a'i i chwilio...

Newydd ddod o hyd i fwy -

Newydd ddod o hyd i fwy - mae hen rhaglenni'r Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd yn handi iawn yn hyn o beth.
Peter Edwards gyfarwyddodd 'Mwg Glas LLeuad Waed'
Paul Turner gyfarwyddodd 'Wix Six'
Gwyn Hughes Jones gyfarwyddodd 'Lliwiau'
hefyd:
Nid ar Redeg (Emlyn Williams, 1983)75'
Y Fagddu (Paul Turner, 1983/4) 33'
Ar Waelod y Cof (Richard Watkins, 1983/4) 55' (drama-doc am y dylawnadau cynnar ar Gwenallt)
Ewyllis Dda* (Emlyn Williams, 1983/4) 30'
Ar Groesffordd Ofn (Paul Turner, 1986)

*camsillafiad o bosib?! Puzzled
Dwi ddim yn siwr am y dyddiadau oherwydd mae'n nhw'n ymddangos e.e. yn rhagle Gweyl 1984, ond mae'n bosib iddyn nhw gael eu cynhyrchu y flwyddyn gynt. Es i hyd at 1986, siwr bod yna llawer iawn mwy yno....

Wel, ble mae * Y Stafell

Wel, ble mae

* Y Stafell Ddirgel (2001?) .. addasiad o nofel Marion Eames

un o'r ffilmiau gorau yn yr Iaith Gymraeg yn fy marn i!

Oes yna unrhyw le y medrwn i brynnu rhai o'r ffilmiau yma??

Dw i'n credu y dylai'r bobol S4C 'ma ail-ddangos rhai o'r ffilmiau 'ma ar y teledu rwan - gwell na rhai sothach mae nhw'n ei gynhyrchu ar ein teledu bob dydd rwan!!!

Opsiynau dangos sylwadau

Dewiswch eich hoff ddull dangos sylwadau a rhowch glec ar "Arbed gosodiadau" i weithredu eich newidiadau.