Cyfle i gael eich ffilm fer ar ail DVD Pictiwrs / Tu Chwith
Cyfle i gael eich ffilm fer chi o flaen llygaid Cymru!
Creu Ffilm Gymraeg ar gyfer Pictiwrs / Tu Chwith
Mae Pictiwrs / Tu Chwith yn chwilio am ffilmiau byr, annibynnol, Cymraeg i’w dangos ar daith hyd a lled Cymru yn yr Hydref ac i'w cynnwys ar DVD a gyhoeddir gan gylchgrawn Tu Chwith ym mis Ionawr 2010.
Wedi llwyddiant y prosiect hwn yn 2008, dyma wahoddiad i gynhyrchwyr ffilm annibynnol i fynd ati i greu ffilm hyd at 15 munud o hyd a fydd yn cael cynulleidfa eang dros Gymru a'r cyfle i dderbyn ymateb i'w gwaith.
Meddai Rhodri ap Dyfrig (Pictiwrs):
'Roedd y cynllun cyntaf yn hwb enfawr i bobol sydd â syniad am ffilm i weithio tuag at gyflawni hynny ac mae’r DVD yn cynnig cyfle i gael cynulleidfa i ffilmiau ar raddfa na ellir ei wneud yn hawdd ar ben eich hun. Gyda 350 yn cael eu dosbarthu a sawl dangosiad ar y gweill, pwy a ŵyr pwy fydd yn eu gwylio all roi eich cyfle creadigol nesaf chi. '
Y tro diwethaf, derbyniwyd pob math o ffilmiau: Kentucky RIP gan Angharad Griffiths sy’n dilyn taith olaf y band Kentucky AFC; drama fer Newid Meddwl gan Sion Aaron.
Cafodd 250 copi o’r DVD wedyn eu dosbarthu gyda Tu Chwith, ond yr uchafbwynt oedd eu dangos i gynulleidfa fawr yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd. Mae bwriad i fynd yn bell tu hwnt i hyn a chael y gynulleidfa orau posib i’r gwaith, gan gynnwys eu hanfon at wyliau ffilm a cherddoriaeth.
Mae croeso i bob math o ffilm: dogfen, drama, animeiddio, fideos arbrofol, ffilmiau celf, fideos cerddoriaeth a ffilmiau ymgyrchu. Gall fod wedi ei chynhyrchu trwy’r ysgol neu brifysgol, neu yn rhywbeth cymunedol; rydym yn gyfangwbl agored.
Caiff pob ffilm a dderbynir gan Pictiwrs / Tu Chwith eu dangos ar y daith yn yr Hydref, ond detholiad o'r ffilmiau a fydd ar y DVD yn Tu Chwith.
Meddai Menna Machreth (Tu Chwith):
'Amcan Tu Chwith yw rhoi llwyfan i artistiaid o bob ffurf, a thrwy gydweithio gyda Pictiwrs rydym yn gallu cynnig cyfle i gynhyrchwyr ffilm annibynnol i ddangos eu gwaith hefyd. Mae cyfrannwyr Tu Chwith wedi arfer dweud stori, boed yn ffuglen neu'n ysgrif neu'n ddarn o gelf, felly mae'n gwneud synnwyr i estyn y gwahoddiad o gyfathrebu stori i ffurf ffilm yn ogystal.'
Mae'r fenter hon yn cael ei chefnogi gan gwmni cyfryngau Rondo Media.
Y dyddiad cau yw Medi 18fed, 2009, a dylid cyflwyno'r ffilm ar dâp Mini-DV neu Ffeil Quicktime (maint mwya' posib).
Danfoner y gwaith at Pictiwrs / Tu Chwith, 7 Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1EJ.
Am ragor o wybodaeth ewch yma: http://prezi.com/109023/view/
Canllawiau pellach:
1. Dylid cyflwyno gwaith ar dâp-MiniDV neu ffeil Quicktime. Gallwch hefyd anfon copi gwylio ar DVD ond bydd angen fersiwn Mini-DV neu Quicktime os caiff ei ddewis ar gyfer y DVD.
2. Os caiff eich DVD ei ddewis i fynd ar y DVD bydd angen i chi lofnodi llythyr yn gwarantu eich bod chi un ai’n berchen ar yr holl hawliau i’r ffilm neu wedi clirio unrhyw hawliau sydd yn berchen i eraill. Mae’n bosib y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn mewn rhai achosion.
Cyswllt:
Rhodri ap Dyfrig: 07855 362206 /
Menna Machreth: 07973 820580 /
Gwybodaeth i olygyddion:
1. Mae Pictiwrs yn Gymdeithas Ffilm wirfoddol sydd yn dangos a hyrwyddo ffilmiau Cymraeg a Chymreig ers 2004. Mae wedi cynnal dros 50 o ddangosiadau mewn 18 ardal wahanol.



Sylwadau diweddar
1 year 15 weeks yn ôl
2 years 29 weeks yn ôl
2 years 29 weeks yn ôl
2 years 37 weeks yn ôl
2 years 41 weeks yn ôl
2 years 41 weeks yn ôl
2 years 44 weeks yn ôl
2 years 45 weeks yn ôl
2 years 45 weeks yn ôl
2 years 46 weeks yn ôl