Ffilm Ryan a Ronnie ar daith Mawrth-Mai 2009

llun Rhodri ap Dyfrig
Ffilm

Mae'r ffilm hir am fywyd Ryan a Ronnie ar daith (fawr chwara teg!) rownd sinemau a neuaddau Cymru. Cafodd hi ei dangosiad cyntaf yn y Steddfod llynedd, ac er na welais i hi, mi glywais i bethau da felly dwi'n edrych mlaen i'w gweld hi.

Dyma'r lleoliadau a dyddiadau...

Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Abertawe - Mawrth 12fed

Canolfan yr Urdd, Bala - Mawrth 16eg

Theatr y Glowyr, Rhydaman - Mawrth 18fed - 21ain

Neuadd y Ddrig Goch, Drefach Felindre, Llandysul - Mawrth 20fed

Theatr Twm O'r Nant, Dinbych - Mawrth 20fed a 22ain

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug - Mawrth 26ain

Oriel Ynys Mon, Llangefni - Mawrth 27ain a 28ain

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Ebrill 2il a 3ydd

Ty Tawe, Abertawe - Ebrill 3ydd

Canolfan Gelfyddydau Gwy, Llanfair ym Muallt (i'w gadarnhau) - Ebrill 3yd i'r 9fed (heblaw am y 6ed)

Sefydliad Cwmaman trwy'r Menter Iaith - Ebrill 8fed

Canolfan Ucheldre, Caergybi Ebrill 8fed - 10fed a 12fed

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd - Ebrill 13eg a 14eg

Sefydliad y Glowyr Coed Duon - Ebrill 14eg i 17eg

Theatr Gwaun, Abergwaun - Ebrill 17eg

Theatr y Lyric , Caerfyrddin - Ebrill 16eg a 17eg

Theatr Elli, Llanelli - Ebrill 16eg a 17eg

Garth Olwg, Church Village - Ebrill 22ain

Theatr Colwyn, Bae Colwyn - Ebrill 22ain

Theatr Mwldan, Aberteifi - Mai 2il, 4ydd, 5ed, 7fed, 9fed

Sinema'r Scala, Prestatyn - Mai 2il