Gwobr Soundtrack - 1000£ am sgorio ffilm!

llun Sara Huws
Digwyddiadau Ffilm a Theledu

t&p oddi wrth Sefydliad Cerddoriaeth Cymru:

Gŵyl Soundtrack

GWOBR SOUNDTRACK AM SGORIO FFILM

Mae’n bleser gan Ŵyl Ffilm Soundtrack, ar y cyd ag Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, gyflwyno Gwobr Soundtrack am Gyfansoddi Sgôr Ffilm.

Gall pawb o bob oed, ac o bedwar ban y byd, roi cynnig ar gystadleuaeth gwobr Soundtrack am gyfansoddi sgôr ffilm. Felly, dyma’ch cyfle chi i lunio sgôr wreiddiol ar gyfer pwt o ffilm archifol – ac fe allech ennill £1,000.00!

Bydd yr ymgeiswyr yn cael pwt o ffilm archifol, trwy garedigrwydd Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ac yna bydd rhaid iddynt gyfansoddi sgôr ar gyfer y ffilm hon.

Wedyn bydd y sgorau a gyflwynir yn cael eu pwyso a mesur gan banel o arbenigwyr, a chaiff y ffilm fuddugol ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Soundtrack ym mis Tachwedd. Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl hon gael ei chynnal.

Dylai pawb sydd â diddordeb fynd at: http://www.soundtrackfilmfestival.com
er mwyn cael manylion sut i wneud cais am becyn cystadlu.

Soundtrack yw Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol i Gymru. Dyma flwyddyn gyntaf y digwyddiad hwn - gŵyl ffilm gyffrous a thrawiadol sy’n clodfori sut mae cerddoriaeth yn cael ei defnyddio yn y modd mwyaf creadigol, gwreiddiol a chyffrous mewn ffilmiau.
Cynhelir yr ŵyl mewn amryw fannau ym Mae Caerdydd a’r cyffiniau o’r 26ain tan y 29ain o Dachwedd 2008.