5.12.07 Pictiwrs Paradiso - The Wicker Man - Druid Inn, Goginan

llun Rhodri ap Dyfrig
Ffilm


Mae noson gyntaf tymor newydd Pictiwrs Paradiso yn ail gychwyn fis nesaf gyda'r clasur arswydus, one-off, bisâr, paganaidd, Albanaidd, naci-dim-pen-ôl-go-iawn-Britt-Eklund-ydi-hwnna - The Wicker Man.

Yn unol â'n mantra o ddangos y clasuron sinema mewn llefydd anghyffredin, ond anghyffredin o addas - bydd hwn yn nahfarn glyd y Druid Inn ym mhentref cysglyd Goginan.

Bydd cwrw hyfryd, bwyd hyfytach a dim ond lle i 20!

Ffoniwch nhw rwan i archebu...£3.50 yn unig - BARGEN! A rhatach na pictiwrs go iawn!

Hon fydd y gyntaf mewn cyfres newydd o ddigwyddiadau fydd yn mynd â ni i Amgueddfa Ceredigion am y Maltese Falcon, fyny i Ganolfan Coedwig Nant yr Arian ganol nos ar gyfer ffilm ddychrynllyd ac yn creu un noson yn dangos double bill o cult classics Cymraeg "O'r Ddaear Hen" a "Newid Gêr".

Heb sôn am lwyth o ffilmiau byr Cymraeg newydd sbon danlli ar hyd y lle bobman.

O ie, byddech wallgo fel Lord Summerisle i'w methu...

shwd ath 'i te?

shwd ath 'i te?

Opsiynau dangos sylwadau

Dewiswch eich hoff ddull dangos sylwadau a rhowch glec ar "Arbed gosodiadau" i weithredu eich newidiadau.