28/10/07 - Amnest yn dangos "The Cup" yng Nghaerdydd

Ffilm


Mae Amnest Rhyngwladol yn cynnal dangosiad arbennig o'r ffilm, Phorpa (The Cup), yng nghanolfan Chapter Caerdydd, nos Sul yma. Ffilm am ddau ffan pel droed yw hi, sy'n fynachod Bwdaidd o Dibet wedi ffoi i India. Bydd Lama Lobsang Topgyal, mynach Bwdaidd sy'n byw yng Nghaerdydd, yn arwain trafodaeth ar ôl y dangosiad.