Penblwydd Hapus S4C - Chapter yn dangos Clasuron Cymru

Lwc pur oedd sylwi yn rhaglen Chapter, wrth lymetian neithiwr, y bydd cyfres o ddangosiadau arbennig o ffilmiau S4C yn cychwyn yno ar nos Wener, Tachwedd yr 2ail. Y BFI sydd wedi rhoi'r rhaglen at 'i gilydd*, i ddathlu'r adfywiad y rhoddwyd i ddiwylliant ffilm Cymru ers sefydlu'r sianel yn 1982. Bydd dangosiadau drwy gydol Tachwedd, a rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Rhagfyr. Dyma'r rhaglen, fel mae'n ymddangos yng Nghylchgrawn Chapter:
2/11/07 - Hedd Wyn (Paul Turner) + Dreams and Desires (Joanna Quinn)
4/11/07 - Rhosyn a Rhith (Stephen Bayly) + Codename Corgi Tracey (Tracy Spottiswoode)
11/11/07 - Cameleon (Ceri Sherlock) + Atgof
18/11/07 - Un Nos Ola Leuad (Endaf Emlyn) +Adagio (Clive Walley)
20/11/07 - Y Wers Nofio (Pennant Roberts) + Joni Jones: 'Ffoadur', a 'Ifaciwis' (Stephen Bayly)
22/11/07 - I Fro Breuddwydion (Ken Howard)
25/11/07 - Solomon a Gaenor (Paul Morrison) + Wife of Bath (Joanna Quin)
30/11/07 - Yr Alcoholig Llon (Karl Francis)
*Hyd y gwela i, does dim manylion pellach ar wefan y BFI.


Sylwadau diweddar
1 year 16 weeks yn ôl
2 years 30 weeks yn ôl
2 years 30 weeks yn ôl
2 years 38 weeks yn ôl
2 years 41 weeks yn ôl
2 years 41 weeks yn ôl
2 years 45 weeks yn ôl
2 years 45 weeks yn ôl
2 years 46 weeks yn ôl
2 years 47 weeks yn ôl