Pedwar mis, tair wythnos a dau ddiwrnod (4 luni, 3 saptamani si 2 zile)

 
Teitl y ffilm:
Pedwar mis, tair wythnos a dau ddiwrnod (4 luni, 3 saptamani si 2 zile)
Actorion:
Anamaria Marinca ... Otilia, Laura Vasiliu ... Gabita, Vlad Ivanov ... Mr Bebe
Cyfarwyddwyd gan:
Cristian Mungiu
Ysgrifennwyd gan:
Cristian Mungiu
Genre:
Thriller
Blwyddyn:
2007
Gwlad:
Romania
Hyd:
113 munud
Dolen Imdb:
Marc allan o ddeg:
8
 
Crynodeb

Drama am ferch sydd yn helpu ffrind cael erthyliad dirgel yn Romania yn yr 80au


Adolygiad

Ers derbyn y Palme d’Or yn Cannes mis mai diwethaf, mae’r ffilm Pedwar mis, tair wythnos a dau ddiwrnod wedi bod yn bwnc llosg yn niwydiant ffilm Ewrop. Mae ambell i feirniad annheg wedi gweld bai ar y ffilm am fod yn ddim mwy nag esgus i bregethu yn erbyn yr egwyddor o erthyliad. I’r gwrthwyneb, mae’r cyfarwyddwr Cristian Mungiu wedi creu llawer iawn mwy na gwaith moesegol un dimensiwn. Nid golwg un llygeidiog a’i unig bwrpas i gollfarnu yr arfer o roi erthyliadau cudd yng nghysgodion strydoedd cefn y ceir yma.

Ugain mlynedd yn gynharach, ffilm Claude Chabrol, Une affaire de femmes oedd yn derbyn clod i gyd yng ngŵyl ffilm Fenice. Ffilm gwahanol iawn o ran arddull, ond yn ymdrin â’r un thema o erthyliad yn Ffrainc Llywodraeth Fichy oedd hwn. Y mae Cristian Mungiu yn mabwysiadu arddull llawer llai clasurol na ffilm Chabrol, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau yn ystod yr oriau o amgylch yr erthyliad. Trwy ddefnyddio amser cyfyng a thrwy gyflwyno dim ond tri chymeriad (Otilia, Gabita a Mr Bébé) , ceir awyrgylch clos a thrwm. Mawredd y ffilm hon yw bod y camera’n syllu ar ei thestun heb daro llygad. Fel gwylwyr, rydym yn cael ei’n gorfodi i ganolbwyntio ein holl sylw ar olygfeydd grymus a dadleuol.

Thriller yn y bôn yw Pedwar mis, tair wythnos a dau ddiwrnod. Lleolir yr hanes brwnt hwn yn Romania yn y flwyddyn 1987, adeg pan oedd erthyliadau yn anghyfreithlon.Yn ystod yr act gyntaf, dilynai’r camera camau brysiog Otilia trwy strydoedd a choridorau di-liw Bucharest. Mae cyflymder symudiadau Otilia a thechneg nerfus y camera yn peri teimlad o gyffro anghyffredin. Trwy lygaid y camera rydym yn gwylio Otilia’n gorfod goroesi nifer o rwystrau er mwyn gallu trefnu erthyliad ei ffrind Gabita. Yn gyntaf mae hi’n cael ei wrthod ystafell mewn gwesty gan dderbynnydd digywilydd a nawddoglyd. O ganlyniad i’r olygfa hyn, y mae’n rhaid iddi logi ystafell mewn gwesty arall, cyn cyfarfod â dyn rhyfedd o’r enw Mr Bébé ar groesffordd un o strydoedd y ddinas. Mae rhythm y golygfeydd yn prysuro gyda symud ymlaen eto wrth i Otilia arwain y dyn hynod yma i’r gwesty er mwyn ymuno â’i ffrind Gabita. Wedi’r dilyniant o olygfeydd cynhyrfus yma, mae rhythm y ffilm yn arafu’n sylweddol a holl bwyslais yr awyrgylch yn newid gyda chynydd mawr yn y tensiwn dramatig. Mae llun y camera yn aros yn sefydlog ond ar yr un pryd mae’r ffrâm yn symud gan aflonyddu ar yr hyn rydym yn ei weld. Ceir y teimlad anghysurus fod drama dyngedfennol gerllaw.

Cynyddai pwysau ail rhan y ffilm gyda thri pherson mewn huis clos yn ystafell y gwesty. Teimla’r gwyliwr fel petae’n mygu o dan yr awyrgylch clos hon. Trwy wylio gwynebau’r cymeriadau mae’n glir eu bod nhw’n anghyffyrddus. I ychwanegu ar yr ansicrwydd, mae’r hyn y mae’r erlythiwr, Mr Bébé, yn ei ddweud yn swnio yn fwy fwy aneglur ac afresymol. Tra mae’r tri yn son am ei dâl, mae’n ailadrodd “A wnes i son i chi am arian?” heb i ni ddeall taw eisio mwy o arian ynte gweithio yn rhad ag am ddim yw ei ewyllys. Daw yn amlwg yn weddol sydyn i’r gwyliwr mae dyn gwallgof i’r carn yw Mr Bébé. Yna heb ddweud gair mae Otilia yn codi ac yn gorwedd ar y gwely gan ddeall cyn neb arall pa fath o dâl sydd eisiau ar Mr Bébé. Wedi ffyrnigrwydd llif o eiriau trawiadol ac emosiynol, mae’r olygfa yn cloi ar lun hir a thawel lle gwelir yr erthyliwr yn cymryd gofal i osod y catheter ar Gabita. Yna mae’n gadael yr ystafell ac yn diflannu o’r ffilm yr un mor sydyn ac mor anesboniadwy â’i ymddangosiad gwreiddiol.

Mae’r cyfarwyddwr ifanc o Romania yn ddigon rhyfygus i barhau â’i hanes heb ychwanegu digwyddiadau dramatig. Gwell gan Cristian Mungiu argymell yr argraff o fygythiad a pherygl. Defnyddia’r cyfarwyddwr nifer o dechnegau gwahanol ar gyfer hyn. Un enghraifft yw ei ddull o blannu nifer o ffug amheuon ym meddwl y gwyliwr. Tra’n gwylio’r ffilm rydym ni’n pendroni am arwyddocâd y gyllell mae Otilia yn ei ddwyn o fag Mr Bébé. Gan ofyn i ni ein hunain, pa ddefnydd a ddaw o’r arf yma? Ceir amheuaeth hefyd ynglŷn â dychweliad posibl Mr Bébé, gan ei fod wedi gadael ei gerdyn i.d. yn nerbynfa’r gwesty. Mae yna rywbeth cnafaidd yn y ffordd mae Mungiu yn arwain ei gynulleidfa i ofidio am yr elfennau yma. Ond mewn modd hollol wrthwynebol i Hitchcock, nid yw’r gwrthrychau a gyflwynir yn y ffilm yn arwyddocaol iawn nac dylanwadu dim ar y stori.

Canolbwynt Pedwar mis, tair wythnos a dau ddiwrnod yw Otilia. Yn ystod golygfa cyntaf y ffilm mae hi’n dweud y gair “Ok” i’w ffrind Gabita, fel petasai hi’n cytuno i chwarae rhan flaenllaw yn yr hanes. Mae’r cydgyfnewidiad yma yn ymddangos fel arwydd o gyfeillgarwch cadarn rhwng Gabita ac Otilia. Er hynny nid yw Gabita yn ymddangos yn deilwng o aberth Otilia. Cyfrifoldeb Gabita oedd llogi’r ystafell yn y gwesty a dod â’r flanced blastig ond mae hi’n anghofio ac yn methu yn ei dyletswydd tuag at ei ffrind. Mae hi hefyd yn gelwyddus gan honni ei bod hi’n feichiog o ddau fis ond mewn gwirionedd pedwar ydyw. Yn ogystal a bod yn ddiofal a dweud celwydd mewn llais isel ac aneglur, mae hi hyd yn oed yn gadael i Otilia rhoi ei chorff fel tâl i Mr Bébé. Dylai Gabita fod yn ffynhonnell o drugaredd i’r gynulleidfa, ond mae hi’n troi allan i fod yn gymeriad annymunol ac annheilwng. Ar y llaw arall, mae’r gynulleidfa yn uniaethu ag Otilia gan mai hi yw’r cymeriad sydd yn mentro, yn pryderi ac yn dangos dewrder.

Mae arwriaeth Otilia yn cyfrif gymaint mwy gan ei bod hi’n gorfod goddef edrychiadau drwgdybus Romania Ceausescu. O dan y system gormesol hwn gall unrhyw weithiwr gwesty trawsffurfio ar unrhyw funud i fod yn asiant y KGB. Mae poblogaeth y gymdeithas hon yn byw mewn ofn parhaol cyhuddiadau eu cymdogion. Ond yn gyfochrog i’r anniogelwch sydd yn teyrnasu ar y gymdeithas hon dangosir ochr gudd y gyfundrefn. Gwelir y fasnach du ac Otilia yn prynu cynhyrchion anghyfreithlon o’r gorllewin fel casetiau, tic-tacs a sigaretau Kent. Gwelwn fywyd dyddiol cymdeithas sydd yn gorfod gweithredu mewn dirgelwch er mwyn gwrthsefyll system caethiwus. Yr erthyliad anghyfreithlon yw’r trosiad ofnadwy a ddefnyddir gan Mungiu i ddarlunio’r fodolaeth hon. Mae Otilia a Gabita yn fodlon aberthu eu cyrff fel ymdrech olaf yn enw rhyddid.

Mae Cristian Mungiu yn ffilmio’r ormest echrydus hyd at y diwedd yn ddigyfaddawd. Cafwyd ambell un ei dramgwyddo am fod y cyfarwyddwr yn dangos y ffetws ar lawr yr ystafell ymolchi. Ond mae’n hanfodol y bod ni’n gweld Otilia yn ei lapio mewn napcyn, ei rhoi mewn bag ac yn cael gwared ohono. Mae’n bwysig bod y gynulleidfa yn gallu gweld i ble mae’r daith trwy yr uffern hon yn arwain. Yn ystod llun olaf y ffilm gwelwn Gabita yn edrych ar fwydlen y gwesty fel petai dim wedi digwydd. Troir edrychiad Otilia tuag atom ni, y gwylwyr, ei hunig ffrindiau, yr unig rhai a welodd ei merthyrdod. Diau, bydd rhai yn gweld portread cas y fam fel cyhuddiad yn erbyn erthyliad. Ond nid yw’r ffilm yn gwneud y naid hon. A tha waeth, pam dylai’r fam fod yn gymeriad hoffus? Yn hytrach nag ystyried moesoldeb y testun fel yr unig gyfraniad pwysig i ansawdd y cyfanwaith, mae hanes Otilia a Gabita yn gofyn cwestiynau llawer dyfnach a mwy cymhleth ar themâu dyrys megis cyfrifoldeb, dyletswydd, perthynas ac emosiwn mewn amgylchiadau eithriadol.


Diolch am adolygiad difyr

Diolch am adolygiad difyr Jules. Mi gadwa i lygad am hon draw fan hyn.

Sgen ti awydd gwneud ffilm fer draw yn Ffrainc 'na ar gyfer DVD Pictiwrs? Sa'n wych cael rhywbeth o dramor!

Dwi'n meddwl mod i'n gwybod pwy wyt ti rwan. Dwi'n ffrindia da iawn efo dy gyfnither di!

Diolch Rhodri. Mae geni ofn

Diolch Rhodri.

Mae geni ofn does genai ddim yr amser ar gyfer gwneud ffilm fer ar hyn o bryd, er faswni wrth fy modd cyfrannu at y dvd pictiwrs.

Dwi'n ddigon ffodus i gael nifer o gyfnitherod ffeind iawn, pa un wyti'n ffrindia efo?

A, hen dro. Rhywbryd arall

A, hen dro. Rhywbryd arall efallai?

Siwan di'r un dwi'n mets a hi gyda llaw.

Cofia fi at Siwan.

Cofia fi at Siwan.

Opsiynau dangos sylwadau

Dewiswch eich hoff ddull dangos sylwadau a rhowch glec ar "Arbed gosodiadau" i weithredu eich newidiadau.