Diddordeb mewn creu teledu?

Cyrsiau


AWST 23- 27
Ydy gyrfa mewn cyflwtno, cyfarwyddo, ymchwilio, sgriptio neu fod yn aelod o griw ffilmio yn apelio?

Mae TVYP (TV for Young People) yn cynnal digwyddiad pob Haf dros 5 niwrnod sydd AM DDIM ac ar agor i unrhywun dros 18 oed sydd eisiau gweithio ym myd teledu.

Trwy TVYP, ceir cyfle i gyd-weithio â rhai o dalentau blaenaf y sgrîn fach, gan ennill profiad, sgiliau, a chysylltiadau gwerthfawr yr un pryd. Does dim rhaid cael unrhyw brofiad o flaen llaw, dim ond diddordeb ym myd teledu.

Gallwch wneud cais nawr. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan TVYP, neu ysgrifennwch at TVYP, 117 Heol Farringdon, Llundain, EC1R 3BX