Ffilmiau Endaf Emlyn

Ffilmiau Cymru

Helo Pictiwrs!

Oes rhywyn yn gwybod lle allai brynu copiau o ffilmiau Endaf Emlyn? nid Hedd Wyn ... ond rhai o'i ffilmiau llai cyfarwydd?

Diolch,
Mr_BOL

Yr unig un sydd ar werth ar

Yr unig un sydd ar werth ar DVD yw Gadael Lenin, fel rhan o'r set bocs ddaru S4C ryddhau dolig cyn dwetha. Mae'n shabby iawn o becyn a phrin y gellid ei alw'n bocs set go iawn gan taw dim ond y bocs sy'n 'sbeshal' amdano. Does dim extras, mae'r transfers yn wael ofnadwy. Does dim hyd yn oed pennodau ar y DVDs! Mae'r diffyg ymdrech a roddwyd mewn i hwn yn adlewyrchu'n wael iawn ar eu

Dwi ddim yn meddwl i mi weld Un Nos Ola Leuad ar werth yn unman, er taw hon yw un o'r ffilmiau Cymraeg gorau i gael ei cynhyrchu. Sdim siawns o gael Stormydd Awst nac Y Mapiwr i'w brynu. Sori nad oeddwn i fwy o help.

Os ti isio eu gweld nhw fydd raid i ti fynd i Archif Sgrin a Sain Cymru, yn Aberystwyth. Cei wylio nhw ar fideo fan honno unrhyw bryd.

Rhyfedd nad oes na mwy ar

Rhyfedd nad oes na mwy ar gael - mae ffilmiau Endaf Emlyn yn bwysig. Cymeryd mai diffyg marchnad yw'r achos. Dwi chwaith heb weld Un Nos Ola Leuad ar werth yn unman. Gadael Lenin yw'r unig un dwi di gweld ar werth, er, doeddwn i ddim yn gwybod am ansawdd wael y DVD!
Diolch am eich ymateb,
Mr_BOL

Opsiynau dangos sylwadau

Dewiswch eich hoff ddull dangos sylwadau a rhowch glec ar "Arbed gosodiadau" i weithredu eich newidiadau.