Ras am Ffilm Caitlin

llun Rhodri ap Dyfrig
Ffilmiau Cymru

Mi adroddodd y Guardian ddydd Sul am y ras sy'n datblygu rhwng dwy ffilm am Caitlin Thomas, gwraig y bardd bwzlyd o Abertawe, Dylan Thomas.

Mae un ffilm yn blocbystyr yn serennu Lindsay Lohan fel Caitlin, a'r llall yn ffilm dipyn llai gan gwmni Cymreig - Ffilmiau Salem - gan serennu Miranda Richardson. Mae yna sawl cwmni wedi bod yn jostlo i wneud ffilm o'i bywyd ers blynyddoedd ond mae'n edrych felly fod y ddwy yma am ddod i fodolaeth yn o agos at eu gilydd.