Croeso i wefan ffilm a theledu Pictiwrs.com

llun Rhodri ap Dyfrig

Croeso i www.pictiwrs.com ar ei newydd wedd. Wedi tua dwy flynedd ar ffurf blog ar y cyd i griw bach o adolygwyr a chyfrannwyr penderfynwyd ei agor fyny i bwy bynnag sydd eisiau cyfrannu gyda'r amcan o greu cymuned Gymraeg ar-lein i drafod ffilm a theledu.

Yn newydd i'r wefan mae fforwm drafod, cydgasglwr straeon newyddion ffilm a theledu (newsfeed) a system drefnu adolygiadau newydd sbon fydd yn gwneud yr adolygiadau'n llawer haws i'w ffeindio a'u didoli.

Ynghyd â hyn bydd cofnodion blog am newyddion a digwyddiadau ffilm yn Nghymru a thu hwnt.

Os oes ganddoch chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar y wefan rhowch gofnod amdanynt yma ac mi geisiwn ni eu gweithredu.

Tîm Pictiwrs