28/10/07 - Amnest yn dangos "The Cup" yng Nghaerdydd
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 25 Hydref, 2007 - 13:45 Ffilm
Mae Amnest Rhyngwladol yn cynnal dangosiad arbennig o'r ffilm, Phorpa (The Cup), yng nghanolfan Chapter Caerdydd, nos Sul yma.
Pictiwrs: Hwren Gyfryngau!
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 25 Hydref, 2007 - 10:40 Ffilm | Pictiwrs yn y Pyb
Do, mae Pictiwrs wedi bod yn sniffian o gwmpas darnau preifat newyddiadurwyr er mwyn cael hwrjo ei hen ddigwyddiadau a syniadau ar fwy o bobol!
Sinema Sŵn
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 24 Hydref, 2007 - 11:54 Pictiwrs yn y Pyb
Wele'r rhaglen lawn isod. Cofiwch ddweud wrth eich ffrindiau!
Penblwydd Hapus S4C - Chapter yn dangos Clasuron Cymru
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 24 Hydref, 2007 - 11:25 Ffilm
Lwc pur oedd sylwi yn rhaglen Chapter, wrth lymetian neithiwr, y bydd cyfres o ddangosiadau arbennig o ffilmiau S4C yn cychwyn yno ar nos Wener, Tachwedd yr 2ail. Y BFI sydd wedi rhoi'r rhaglen at 'i gilydd*, i ddathlu'r adfywiad y rhoddwyd i ddiwylliant ffilm Cymru ers sefydlu'r sianel yn 1982. Bydd dangosiadau drwy gydol Tachwedd, a rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Rhagfyr. Dyma'r rhaglen, fel mae'n ymddangos yng Nghylchgrawn Chapter:
Llyn Fach ar y Sgrin Fawr*
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 22 Hydref, 2007 - 13:19Mae pawb i weld yn siarad am Stardust ar hyn o bryd - ffilm nodwedd gyda lluaws o enwau enfawr Hollywood yn serennu ynddi, megis Michelle Pfiffer, Peter O'Toole a Bobby DeNiro. Mae'n helpu, wrth gwrs, fod y dyn mwya' cegog ym Mhrydain yn digwydd bod yn briod âg un o awduron y ffilm - ond un peth do'n i heb glywed yw bod Llyn y Fan Fach, Sir Gâr, yn un o'i lleoliadau ffilmio. Debyg fod hyn yn hen newydd braidd, ond dyna ni - diolch i e-bost Cynghrair Cymry Arizona am ddenu fy sylw ato.
Diwrnod Cerddoriaeth Ffilmiau yr SCG ac AFfC
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 22 Hydref, 2007 - 13:02 Cyrsiau

Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac Asiantaeth Ffilm Cymru wedi ymuno i drefnu diwrnod “Cerddoriaeth Ffilmiau” ar Ddydd Iau, Tachwedd 15 yng nghanolfan gerddoriaeth The Point, Bae Caerdydd, Caerdydd. Bydd y digwyddiad am ddim i’r rhai sy’n cymryd rhan, a bydd lleoedd yn cael eu dosbarthu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.
Sinema Sŵn - Rhaglen Pictiwrs yng Ngwyl Sŵn
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 19 Hydref, 2007 - 14:38 Gwyliau ffilmWel, dyma ni...
Sinema Sŵn - Pictiwrs yng Nghaffi Floyd's/ Pictiwrs at Floyd's Cafe
4pm, 11/11/07
4pm: ABC Datblygu (Criw Byw)
60 munud/ 60 mins
Dogfen Fideo 9 am un o fandiau mwya' dylanwadol yr SRG.
It's My Shout 2007
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 10 Hydref, 2007 - 11:54 CyrsiauCynllun hyfforddi ffilm yw It's My Shout, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc (14 - 24 oed) fagu profiad ym meysydd sgwennu, actio, cynllunio, ffilmio, coluro - pob dim, a dweud y gwir - sy'n ymwneud â chynhyrchu ffilm.
Pictiwrs yng Ngwyl Sŵn
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 5 Hydref, 2007 - 12:59 Pictiwrs yn y Pyb'Rhagfarn' BAFTA yn erbyn ffilmiau Gaeleg a Chymraeg
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 5 Hydref, 2007 - 12:46 FfilmMae stori ar wefan Cymru'r Byd heddiw am ymadawiad Chris Young o BAFTA, am na gafodd ei ffilm Aeleg Seachd ei henwebu ar gyfer yr Oscars. Mae ymddiswyddiad Young wedi sbarduno trafodaeth am agwedd Llundain tuag at ffilmiau - a chelfyddyd, yn gyffredinol - o Gymru a'r Alban.




Sylwadau diweddar
1 year 16 weeks yn ôl
2 years 30 weeks yn ôl
2 years 30 weeks yn ôl
2 years 38 weeks yn ôl
2 years 41 weeks yn ôl
2 years 41 weeks yn ôl
2 years 45 weeks yn ôl
2 years 45 weeks yn ôl
2 years 46 weeks yn ôl
2 years 47 weeks yn ôl