blog Mair Thomas
Diddordeb mewn creu teledu?
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 26 Ebrill, 2007 - 13:27 Cyrsiau
AWST 23- 27
Ydy gyrfa mewn cyflwtno, cyfarwyddo, ymchwilio, sgriptio neu fod yn aelod o griw ffilmio yn apelio?
Mae TVYP (TV for Young People) yn cynnal digwyddiad pob Haf dros 5 niwrnod sydd AM DDIM ac ar agor i unrhywun dros 18 oed sydd eisiau gweithio ym myd teledu.
FFilmiau Cymru Ddoe
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 25 Ebrill, 2007 - 13:52 FfilmDolen: http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/ffilm/adolygiadau/gwyrfai.shtml
Stori ddifyr ar wefan y BBC am ddangosiadau bydd yn cymryd lle yng Nghlynnog Fawr yr wythnos hon.
Gwobrau i Gymru yng Ngwyl Celtic Media
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 30 Mawrth, 2007 - 15:25 Gwyliau ffilmMae'r Cymry wedi cael tipyn o lwyddiant yn yr Wyl ar Ynys Skye eleni. Llongyfarchiadau lu i'r canlynol:
GRIFFILMS
Animeiddio: Map yr Underground
Rhyngweithiol: Tanni yn ymladd Tan
Opus TF
Cowbois ac Injans yn ennill gwobr Celtic Media
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 29 Mawrth, 2007 - 13:16
Dyw'r newyddion heb gyrraedd wefan yr wyl eto, ond llongyfarchiadau i Cowbois ac Injans sydd wedi ennill gwobr Celtic Media ar gyfer y gyfres ddrama orau! Mae ail gyfres Cowbois ac Injans newydd ddod i ben ar S4C, ond fedrwch ddal fyny â chriw Garej Wheelers ar wefan band llydan S4C.
Cystadleuaeth ThinkSync ar gyfer defnydd gorau cân mewn ffilm...
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 23 Mawrth, 2007 - 17:03 GwefannauEwch at wefan Think Sync Films i ddarllen mwy am eu cystadleuaeth ffilm fer, sydd mewn cydweithrediad â fy hoff gynhorwyr ar ffilmiau annibynol, [url=http://
Mix and Mash
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 26 Chwefror, 2007 - 09:48Mae cystadleuaeth ffilmiau Mix and Mash yn gofyn i ymgeiswyr ddefnyddio deunydd 'creative commons' er mwyn creu ffilmiau-byrion-in-da-remix. Thema (eitha' diflas) y gydtaleuaeth yw Britania Rules/ Britania Sucks.
Pictiwrs yn y Pyb, Caerdydd 5.3.07
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 26 Chwefror, 2007 - 09:30
Mae noson ffilmiau byrion Cymraeg "Pictiwrs yn y Pyb" yn dychwelyd i'r fan lle cychwynnodd y cyfan - Dempseys, ar heol y Castell, Caerdydd! Hwre! Dewch draw ar nos Lun, Mawrth y 5ed, am bictiwrs a pheint.
Rêl Institiwt yn cloi cyfarwyddwyr i ffwrdd...
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 10 Ionawr, 2007 - 15:38...ond fyddan nhw ddim yn taflu'r 'goriad.
Soniodd Pictiwrs am brosiect cyffrous yr Institiwt cyn y Dolig, a bellach mae'r pedwar tîm wedi eu dewis, ac wedi eu cloi mewn ty yn Llangollen tan y bydd eu ffilmiau'n barod. Bydd y cynhyrchiadau yn cael eu dangos mewn noson arbennig ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen nos Sadwrn yma.
Ar y bocs yr wythnos hon...
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 14 Rhagfyr, 2006 - 09:41 Teledu"Dead Long Enough" a "Cymbeline"
Bydd Dead Long Enough (2005) ffilm sydd wedi lleoli'n rhannol yng Nghymru, yn cael ei dangos ar ITV1 nos Wener yma, sef Rhagfyr 15fed, am 23.00. Dwy heb weld y ffilm (a gafodd lawer o sylw adeg Gwyl Sgrîn Caerdydd llynedd) ond mae adolygiad IMDB yn annwylo'r peth i mi...
Rhaglen lawn Gwyl Ffilm Caerdydd
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 18 Hydref, 2006 - 16:07 Gwyliau ffilmMae rhaglen lawn Gwyl Ffilm Caerdydd wedi'i gyhoeddi bellach, ac ar gael fel PDF os ewch chi i wefan yr wyl. Ewch i gael pip, da chi!


Sylwadau diweddar
8 weeks 4 days yn ôl
38 weeks 1 day yn ôl
1 year 51 weeks yn ôl
2 years 2 days yn ôl
2 years 8 weeks yn ôl
2 years 11 weeks yn ôl
2 years 11 weeks yn ôl
2 years 15 weeks yn ôl
2 years 15 weeks yn ôl
2 years 16 weeks yn ôl