blog Mair Thomas

Fel Arall: Dogfen Nia Dryhurst ar S4C

'Mond eisiau eich atgoffa y bydd ffilm ddogfen Nia Dryhurst, Fel Arall yn cael ei ddangos ar S4C nos Fawrth yma am 9pm. Cafodd y ddogfen gryn sylw yn ystod Yr Wyl Ffilm Hoyw a Lesbaidd eleni, ac mae'r manylion ar wefan y rhaglen yn argoeli ffilm sensitif a dadlennol.

28/10/07 - Amnest yn dangos "The Cup" yng Nghaerdydd

Ffilm


Mae Amnest Rhyngwladol yn cynnal dangosiad arbennig o'r ffilm, Phorpa (The Cup), yng nghanolfan Chapter Caerdydd, nos Sul yma.

Sinema Sŵn

Pictiwrs yn y Pyb

Wele'r rhaglen lawn isod. Cofiwch ddweud wrth eich ffrindiau!

Penblwydd Hapus S4C - Chapter yn dangos Clasuron Cymru

Ffilm


Lwc pur oedd sylwi yn rhaglen Chapter, wrth lymetian neithiwr, y bydd cyfres o ddangosiadau arbennig o ffilmiau S4C yn cychwyn yno ar nos Wener, Tachwedd yr 2ail. Y BFI sydd wedi rhoi'r rhaglen at 'i gilydd*, i ddathlu'r adfywiad y rhoddwyd i ddiwylliant ffilm Cymru ers sefydlu'r sianel yn 1982. Bydd dangosiadau drwy gydol Tachwedd, a rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Rhagfyr. Dyma'r rhaglen, fel mae'n ymddangos yng Nghylchgrawn Chapter:

Llyn Fach ar y Sgrin Fawr*

Mae pawb i weld yn siarad am Stardust ar hyn o bryd - ffilm nodwedd gyda lluaws o enwau enfawr Hollywood yn serennu ynddi, megis Michelle Pfiffer, Peter O'Toole a Bobby DeNiro. Mae'n helpu, wrth gwrs, fod y dyn mwya' cegog ym Mhrydain yn digwydd bod yn briod âg un o awduron y ffilm - ond un peth do'n i heb glywed yw bod Llyn y Fan Fach, Sir Gâr, yn un o'i lleoliadau ffilmio. Debyg fod hyn yn hen newydd braidd, ond dyna ni - diolch i e-bost Cynghrair Cymry Arizona am ddenu fy sylw ato.

Diwrnod Cerddoriaeth Ffilmiau yr SCG ac AFfC

Cyrsiau


Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac Asiantaeth Ffilm Cymru wedi ymuno i drefnu diwrnod “Cerddoriaeth Ffilmiau” ar Ddydd Iau, Tachwedd 15 yng nghanolfan gerddoriaeth The Point, Bae Caerdydd, Caerdydd. Bydd y digwyddiad am ddim i’r rhai sy’n cymryd rhan, a bydd lleoedd yn cael eu dosbarthu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.

Sinema Sŵn - Rhaglen Pictiwrs yng Ngwyl Sŵn

Gwyliau ffilm

Wel, dyma ni...

Sinema Sŵn - Pictiwrs yng Nghaffi Floyd's/ Pictiwrs at Floyd's Cafe
4pm, 11/11/07

4pm: ABC Datblygu (Criw Byw)
60 munud/ 60 mins
Dogfen Fideo 9 am un o fandiau mwya' dylanwadol yr SRG.

It's My Shout 2007

Cyrsiau

Cynllun hyfforddi ffilm yw It's My Shout, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc (14 - 24 oed) fagu profiad ym meysydd sgwennu, actio, cynllunio, ffilmio, coluro - pob dim, a dweud y gwir - sy'n ymwneud â chynhyrchu ffilm.

Pictiwrs yng Ngwyl Sŵn

Pictiwrs yn y Pyb


Gwyliwch y gofod yma am fanylion dangosiadau Pictiwrs yng Ngwyl Sŵn fis Tachwedd yma. Byddwn ni'n dangos cyfres o ffilmiau cerddorol-eu-naws ar ddydd Sul, Tachwedd 11eg, yng nghaffi Floyds ar Heol Eglwys Fair.

'Rhagfarn' BAFTA yn erbyn ffilmiau Gaeleg a Chymraeg

Ffilm

Mae stori ar wefan Cymru'r Byd heddiw am ymadawiad Chris Young o BAFTA, am na gafodd ei ffilm Aeleg Seachd ei henwebu ar gyfer yr Oscars. Mae ymddiswyddiad Young wedi sbarduno trafodaeth am agwedd Llundain tuag at ffilmiau - a chelfyddyd, yn gyffredinol - o Gymru a'r Alban.

Ffrwd XML